Beware of scams

We are aware of scams coming from email and social media where people try to impersonate us. We will never ask you for money or your bank details. Learn more about what to look out for and how to protect yourself.

Dogfen Cwestiynau Cyffredin

Welsh Language Version

Y Broses Apeliandau

Mae fy nghais wedi cael ei wrthod ar ôl gwiriad credyd, a allaf apelio yn erbyn y penderfyniad hwn?

Gallwch, mae gennych 30 diwrnod o ddyddiad y canlyniad i wneud apêl.

Dyddiad y canlyniad yw’r dyddiad y cawsoch yr e-bost yn eich hysbysu o’r penderfyniad.

Sut ydw i’n gwneud apêl yn erbyn penderfyniad gwiriad credyd?

Rydym wedi ymrwymo i fenthyca cyfrifol ac, fel rhan o hyn, rydym yn adolygu ymddygiad ariannol blaenorol pob cwsmer a’i allu presennol i fforddio’r benthyciad. Am y rheswm hwn, ni allwn fenthyg i unigolion â rhai problemau credyd (i ddysgu mwy am sut rydym yn gwneud ein penderfyniad credyd, cliciwch yma). Dyna pam rydym ni’n gofyn i gwsmeriaid sicrhau bod y wybodaeth sy’n cael ei dal gan asiantaethau gwirio credyd yn gywir, cyn i ni ystyried eich apêl.

Os yw’r wybodaeth sydd yn eich adroddiad credyd yn anghywir, bydd angen i chi drafod hyn gyda’ch asiantaeth gwirio credyd cyn i ni benderfynu ar eich apêl credyd, gan ein bod ni’n defnyddio gwybodaeth a ddarperir ganddynt yn ein gwiriad credyd. Lle bo hynny’n briodol, gallwn yna ystyried adolygu’r penderfyniad credyd ar ôl i unrhyw wiriadau gael eu gwneud i’ch adroddiad credyd.

Am ragor o wybodaeth am eich hanes credyd ewch i: Experian.

Gallwch wneud apêl trwy gysylltu â The Start Up Loans Company (SUL) a llenwi ein ffurflen.

Os byddwch yn penderfynu apelio, gofynnir i chi roi rheswm (rhesymau) dilys dros pam y dylid clywed eich apêl ac am gopi o’ch adroddiad credyd.

Mae fy nghais wedi cael ei wrthod yn dilyn ail-gynnal gwiriad credyd, a allaf apelio yn erbyn y penderfyniad hwn?

Gallwch, mae gennych 30 diwrnod o ddyddiad y canlyniad i wneud apêl.

Dyddiad y canlyniad yw’r dyddiad y cawsoch yr e-bost yn eich hysbysu o’r penderfyniad.

Sut ydw i’n apelio yn erbyn penderfyniad yn dilyn ail-gynnal gwiriad credyd?

Gallwch gysylltu â’ch Partner Cyflenwi dros y ffôn neu e-bost, gellir dod o hyd i’w fanylion yn y porth cwsmeriaid neu ar e-bost diweddar neu gallwch gysylltu â ni yn SUL gan ddefnyddio ein ffurflen.

Yna gallwn ymchwilio i’r rheswm dros wrthod eich cais. Mae ceisiadau’n cael eu gwrthod am amryw o resymau, a allai gynnwys newid yn eich amgylchiadau ariannol, ers ein gwiriad credyd diwethaf, sydd oherwydd ein hymrwymiad i fenthyca cyfrifol, efallai’n esbonio pam eich bod wedi cael eich gwrthod ers hynny.

A allaf apelio yn erbyn penderfyniad asesu?

Gallwch, mae gennych 30 diwrnod o ddyddiad y canlyniad i wneud apêl i’ch Partner Cyflenwi.

Dyddiad y canlyniad yw’r dyddiad y cawsoch yr e-bost yn eich hysbysu o’r penderfyniad.

Sut ydw i’n gwneud apêl yn erbyn y penderfyniad asesu?

Gallwch gysylltu â’ch Partner Cyflenwi dros y ffôn neu e-bost, gellir dod o hyd i’w fanylion yn y porth cwsmeriaid neu ar e-bost diweddar.

Os byddwch yn penderfynu apelio, gofynnir i chi ddarparu rheswm (rhesymau) dilys dros pam eich bod yn meddwl bod y penderfyniad gwreiddiol yn anghywir. Byddwch yn gallu darparu gwybodaeth ychwanegol i gefnogi eich apêl.

Gall eich Partner Cyflenwi eich helpu i nodi pa wybodaeth ychwanegol fydd ei hangen.

Beth yw’r broses apelio yn erbyn asesiad?

Bydd eich partner cyflenwi yn adolygu’ch cais yn annibynnol, gan adolygu’r cais gwreiddiol ac unrhyw wybodaeth newydd rydych wedi’i darparu i gefnogi’ch cais.

Gan fod ein holl asesiadau yn mynd trwy broses asesu ddeuol i ddechrau, anaml y bydd apêl yn cael ei gwrthdroi.

Os na chaiff eich apêl ei chadarnhau, gallwch ailymgeisio 6 mis ar ôl y penderfyniad gwreiddiol, a fydd yn rhoi amser i chi wella hyfywedd eich busnes neu fynd i’r afael ag unrhyw bryderon ynghylch fforddiadwyedd a godwyd.

Os caiff eich apêl ei chadarnhau, yna bydd eich cais yn mynd yn ei flaen yn ôl yr arfer a bydd eich Partner Cyflenwi yn eich tywys trwy unrhyw gamau nesaf.