Dogfen Cwestiynau Cyffredin
Welsh Language VersionEin partneriaid cyflenwi
Rhwydwaith o sefydliadau cymorth busnes blaenllaw gyda’r arbenigedd i helpu ein cwsmeriaid ddechrau busnes, tyfu eu busnes a sicrhau Start Up Loan.
Mae’n bwysig i ni ein bod yn rhoi pob cyfle i’n holl gwsmeriaid lwyddo, gyda’u cais am Start Up Loan a’u busnes cyfan. Dyna pam rydym yn cyflogi rhwydwaith cenedlaethol o sefydliadau Partner Cyflenwi gyda chynghorwyr busnes profiadol.
Yn ogystal â helpu ymgeiswyr i baratoi eu cynllun busnes a’u rhagolwg llif arian, mae ein Partneriaid Cyflenwi yn gyfrifol am asesu ceisiadau am fenthyciad ac yn rhoi cefnogaeth fentora barhaus i ymgeiswyr llwyddiannus. Pan fyddwch yn gwneud cais am Fenthyciad Dechrau Busnes, byddwch yn cael eich paru â chynghorydd busnes i’ch helpu i symud pethau ymlaen a bod yn bwynt cyswllt allweddol â’r cynllun.
Rydym yn gweithio’n agos gyda’n Partneriaid Cyflenwi, sy’n gweithredu mewn gwahanol ranbarthau a diwydiannau ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, i sicrhau bod penderfyniadau benthyca cyfrifol yn cael eu gwneud.
Rydym yn paru ein holl ymgeiswyr gydag un o’n Partneriaid Cyflenwi a, lle bo hynny’n bosib, yn eich paru gyda Phartner Cyflenwi sy’n gweithredu yn eich ardal leol.
Sylwch: er mwyn sicrhau y gallwn eich cefnogi’n effeithiol, dim ond gydag un Partner Cyflenwi y byddwch yn gallu gweithio ac ni fyddwch yn gallu newid eich partner ar ôl i chi gyflwyno’ch cais.