Beware of scams

We are aware of scams coming from email and social media where people try to impersonate us. We will never ask you for money or your bank details. Learn more about what to look out for and how to protect yourself.

Cwestiynau Cyffredin

Welsh Language Version

Cymorth Busnes a Mentora

Pa gymorth sydd ar gael i mi tra fy mod yn mynd trwy’r broses gwneud cais?

Mae ein Partneriaid Cyflenwi ar gael i’ch cefnogi trwy’r broses gwneud cais. Gallant roi cyngor i chi ar lenwi’r ffurflenni cais a pha wybodaeth fydd angen i chi ei chynnwys. Gallant hefyd eich helpu i greu eich cynllun busnes, rhagolwg llif arian a chyllideb goroesi bersonol, p’un a oes angen cymorth arnoch i greu’r rhain o’r dechrau neu ddim ond eisiau i rywun edrych drostynt a’u gwirio.

Gan y bydd eich Partner Cyflenwi hefyd yn asesu’ch cais am fenthyciad i benderfynu a ydych chi’n gymwys i gael Start Up Loan ai peidio, bydd eu cefnogaeth yn canolbwyntio ar eich rhoi yn y sefyllfa orau bosibl i lwyddo. Mae’n bwysig cofio mai chi sy’n gyfrifol am eich cais yn y pen draw ac er y bydd Partner Cyflenwi yn gwneud ei orau i’ch cefnogi, nid yw hyn yn gwarantu y byddwch yn gymwys i gael y benthyciad.

A ydych yn gallu cynnig cymorth gyda drafftio fy nghynllun busnes a rhagolwg llif arian?

Ydym, bydd eich Partner Cyflenwi yn gallu eich helpu gyda hyn. Lle bo modd, rydym yn eich annog i geisio drafftio’ch cynlluniau yn gyntaf, gan ddefnyddio ein templedi am ddim, gan y bydd hyn yn helpu’ch Partner Cyflenwi i gael gwell dealltwriaeth ohonoch chi a’ch busnes. Ond peidiwch â phoeni, os nad ydych wedi gwneud hyn o’r blaen ac eisiau ychydig o arweiniad cyn dechrau arni, mae hynny’n hollol iawn.

Pa gymorth y byddaf yn ei gael os yw fy nghais yn llwyddiannus?

Unwaith y byddwch wedi cael eich Start Up Loan, byddwch yn cael cynnig mentora 1:1. Mae gennych hawl i 15 awr o fentora am ddim yn ystod 12 mis cyntaf tymor eich benthyciad, ond chi a’ch mentor fydd yn penderfynu pa mor aml rydych chi’n dal i fyny. Yn ogystal â chymorth mentora, bydd gennych hawl hefyd i gael mynediad at ystod o gynigion busnes arbennig gan ein Partneriaid Corfforaethol, gan gynnwys gostyngiadau, cyfraddau llai a rhoddion am ddim ar ystod o gynhyrchion a gwasanaethau busnes blaenllaw.

Beth yw mentor a sut y bydd o fudd i mi?

Mentor yw unigolyn profiadol a fydd yn gallu rhoi cymorth ac arweiniad i chi wrth i chi fynd ati i ddatblygu eich busnes. Er ei fod yn amser cyffrous, gall dechrau busnes hefyd fod yn unig ac yn llethol, yn enwedig yn y camau cynnar, felly gall fod yn fuddiol iawn cael rhywun â phrofiad, arbenigedd a phersbectif gwahanol i siarad â nhw. Ni fydd mentor yn dweud wrthych sut i redeg eich busnes; yn hytrach bydd yn eich cynorthwyo i ddysgu sut i wneud cynlluniau a strategaethau a fydd yn eich galluogi i wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer eich busnes. Dysgu mwy am ein rhaglen fentora.

Sut bydd y cymorth mentora yn cael ei gyflwyno?

Mae i fyny i chi a’ch mentor i benderfynu yn seiliedig ar yr hyn sy’n gweithio i’r ddau ohonoch. Mae rhai o’n cwsmeriaid yn cael mentora wyneb yn wyneb, yn cyfarfod mewn lleoliad allanol fel caffi, tra bod eraill yn hapus i gael galwad ffôn, cael cynhadledd fideo (trwy Skype neu blatfform arall) neu’n gohebu trwy e-bost. Gallwch drafod hyn gyda’ch mentor yn eich sesiwn gyntaf. Sylwch: ni ellir sicrhau y bydd mentora wyneb yn wyneb ar gael ym mhob achos.

A oes rhaid i mi gael mentora er mwyn cael Start Up Loan?

Na, nid oes rhaid i chi gael mentora. Fodd bynnag, rydym yn argymell yn gryf bod pawb sy’n cael benthyciad yn cymryd rhan mewn mentora, gan fod y rhan fwyaf o astudiaethau’n dangos cysylltiad cadarnhaol rhwng goroesiad busnes ac ymgysylltu â chymorth mentora. Gallwch ddewis faint o gefnogaeth fydd yn gweithio orau i chi a pha mor aml rydych eisiau cwrdd â’ch mentor. Rydym yn deall weithiau bod bywyd a busnes yn brysur, ond peidiwch â thanbrisio pa mor bwerus all yr arweiniad a’r cymorth yma fod.

Faint o gymorth allaf ofyn i fy mentor amdano?

Mae gennych hawl i 15 awr o fentora 1:1 yn ystod 12 mis cyntaf tymor eich benthyciad.

A fyddaf yn parhau i gael cymorth os byddaf yn methu ag ad-dalu’r benthyciad?

Byddwch, os ydych chi’n methu ag ad-dalu gallwch ofyn am gefnogaeth gan eich Partner Cyflenwi neu fentor ond nodwch y bydd angen i chi siarad â’ch Partner Cyllid sy’n rheoli’ch benthyciad hefyd. Cofiwch, nid cyfrifoldeb y Partner Cyflenwi na’ch mentor yw sicrhau eich bod yn cadw i fyny ag ad-daliadau eich Start Up Loan. Beth bynnag fo’ch perthynas fentora, rydych yn dal i fod yn gyfrifol am ad-dalu eich Start Up Loan yn ôl y cynllun ad-dalu y cytunwyd arno a fydd yn cael ei drafod yn ystod y broses ymgeisio.

A fydd fy mentor yn gallu rhoi cyngor am ddyledion?

Na, mae eich mentor yno i ddarparu arweiniad cyffredinol a ni all ef/hi roi cyngor penodol ar faterion megis cwnsela dyled. Siaradwch â’ch Partner Cyllid os ydych chi’n poeni am fethu ad-daliad sydd ar y ffordd, neu os ydych eisoes wedi methu ad-daliad, ac ewch i’n hadran Cwestiynau Cyffredin am Ad-daliadau i gael arweiniad pellach ar wasanaethau allanol a all eich helpu hefyd.