Beware of scams

We are aware of scams coming from email and social media where people try to impersonate us. We will never ask you for money or your bank details. Learn more about what to look out for and how to protect yourself.

Cwestiynau Cyffredin

Welsh Language Version

Y Broses o Wneud Cais

Nid oes gennyf syniad busnes eto. A allaf barhau i wneud cais am Start Up Loan?

Yn anffodus, mae’r cynllun Start Up Loans wedi’i gynllunio i gynorthwyo pobl i ddechrau neu dyfu eu busnes, felly er nad oes angen i chi fod yn masnachu er mwyn bod yn gymwys i gael benthyciad, bydd angen i chi gael syniad busnes er mwyn gwneud eich cais.

Fel rhan o’r broses o wneud cais, bydd angen i chi gyflwyno cynllun busnes a rhagolwg llif arian. Peidiwch â phoeni os nad ydych wedi cwblhau’r rhain eto – ar ôl i chi gofrestru’ch manylion a chael eich paru ag un o’n Partneriaid Cyflenwi am gefnogaeth, gall cynghorydd busnes roi arweiniad i chi ar gwblhau’r dogfennau hyn. Rydym hefyd yn cynnig detholiad o ganllawiau defnyddiol a allai fod o gymorth wrth i chi ddechrau arni.

Rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais ar yr adeg y bydd y cyllid yn eich helpu i lansio’ch busnes a phan fydd gennych yr amser i fuddsoddi mewn creu eich dogfennau busnes. Os mai dim ond gwasanaeth cymorth ymgynghorol sydd gennych ddiddordeb ynddo ar hyn o bryd, rydym yn argymell eich bod yn defnyddio offeryn cymorth busnes Llywodraeth y DU neu’n cysylltu â’r Llinell Gymorth Cymorth Busnes ar 0800 998 1098. Efallai y bydd y naill neu’r llall o’r rhain yn gallu eich cyfeirio at wasanaeth addas arall.

Mae gennyf syniad busnes neu mae fy musnes eisoes yn masnachu. A allaf wneud cais am Start Up Loan?

Gallwch, gall y cynllun Start Up Loans gefnogi unigolion sy’n dechrau busnesau newydd neu unigolion sydd â busnesau sy’n bodoli eisoes, ar yr amod nad ydyn nhw wedi bod yn masnachu am fwy na dwy flynedd.

Fel rhan o’r broses o wneud cais bydd angen i chi gyflwyno cynllun busnes a rhagolwg llif arian. Peidiwch â phoeni os nad ydych wedi cwblhau’r rhain eto – ar ôl i chi gofrestru’ch manylion a chael eich paru ag un o’n Partneriaid Cyflenwi am gefnogaeth, gall cynghorydd busnes roi arweiniad i chi ar gwblhau’r dogfennau hyn. Rydym hefyd yn cynnig detholiad o ganllawiau defnyddiol a allai fod o gymorth wrth i chi ddechrau arni.

Rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais ar yr adeg y bydd y cyllid yn eich helpu i lansio’ch busnes a phan fydd gennych yr amser i fuddsoddi mewn creu eich dogfennau busnes.

Os mai dim ond gwasanaeth cymorth ymgynghorol sydd gennych ddiddordeb ynddo ar hyn o bryd, rydym yn argymell eich bod yn defnyddio offeryn cymorth busnes Llywodraeth y DU neu’n cysylltu â’r Llinell Gymorth Cymorth Busnes ar 0300 456 3565. Efallai y bydd y naill neu’r llall o’r rhain yn gallu eich cyfeirio at wasanaeth addas arall.

A godir tâl am wneud cais?

Na, ni fyddwn ni na’n Partneriaid Cyflenwi yn codi tâl am wneud cais am Start Up Loan. Ni chodir tâl chwaith am y cymorth a roddir yn ystod ac ar ôl y broses o wneud cais. Yr unig swm fydd rhaid i chi ei dalu yw eich ad-daliadau misol os yw eich cais yn llwyddiannus. Os gofynnir i chi wneud unrhyw fath o daliad i The Start Up Loans Company ar wahân i’r ad-daliadau misol y cytunwyd arnynt, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl.

Pa mor hir mae’r broses o wneud cais yn ei gymryd?

Mae pob busnes yn wahanol, felly ni allwn roi cyfnod cyfartalog o amser ar gyfer pa mor hir fydd eich cais yn ei gymryd. Gall ceisiadau gan gwsmeriaid sy’n barod iawn gymryd cyn lleied â dwy i dair wythnos, tra bod angen mwy o gefnogaeth ar gwsmeriaid eraill i gwblhau’r dogfennau angenrheidiol a gallant gymryd dau i dri mis a mwy. Rydym yn ceisio eich rhoi chi mewn rheolaeth o’r broses cymaint â phosib, felly po fwyaf parod ydych chi, y cyflymaf fydd y cais yn mynd rhagddo.

Os oes gennych fersiwn derfynol neu ddrafft o’ch cynllun busnes a’ch rhagolwg llif arian wedi’u cwblhau ar adeg cyflwyno’ch cais, bydd yn haws i’ch Partner Cyflenwi gael syniad o faint o gefnogaeth yr ydych ei angen er mwyn prosesu eich cais. Sylwch: mae ein tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid a’n Partneriaid Cyflenwi yn ymdrechu i ymateb i’r holl ymholiadau gan gwsmeriaid o fewn pum diwrnod gwaith.

Pa ffactorau ydych yn eu hystyried wrth asesu ceisiadau?

Mae tri phrif faes y bydd eich Cynghorydd Busnes yn eu hystyried wrth adolygu’ch cais am Start Up Loan: eich teilyngdod credyd, p’un a allwch fforddio cymryd y benthyciad ai peidio, ac a yw eich busnes yn hyfyw.

Teilyngdod credyd: Fel rhan o’ch cais, bydd gofyn i chi gael gwiriad credyd sy’n adolygu eich ymddygiad ariannol blaenorol a chyfredol. Er na fydd hanes credyd gwael yn eich atal rhag sicrhau Start Up Loan ym mhob achos, mae’r rhan hon o’r broses ymgeisio yn rhan o’n hymrwymiad i fenthyca cyfrifol ac yn ein helpu i sicrhau nad yw ein hymgeiswyr yn gorlwytho eu hunain.

Fforddiadwyedd personol: Gan mai benthyciadau personol a ddefnyddir at ddibenion busnes yw Start Up Loans, byddwch yn atebol am ad-dalu’ch benthyciad hyd yn oed os bydd eich cynlluniau busnes yn newid yn y dyfodol. Er nad yw Start Up Loans wedi’u gwarantu (nid oes rhaid i chi gyflwyno unrhyw sicrwydd i warantu’r benthyciad) bydd angen i chi ad-dalu’r benthyciad yn llawn ac unrhyw log sy’n ddyledus yn ystod y tymor benthyciad y cytunwyd arno. Mae’r Gyllideb Oroesi Bersonol sy’n amlinellu’ch ffynonellau incwm personol allweddol ac unrhyw dreuliau yr ydych yn eu hwynebu bob mis, y mae’n rhaid i chi ei chyflwyno gyda’ch cais, yn ein cefnogi i wneud yr asesiad hwn.

Hyfywedd y busnes: Ffactor allweddol yn ein penderfyniad benthyca yw sicrhau bod eich busnes yn mynd i gynhyrchu digon o arian i’ch helpu chi i dalu’ch ad-daliadau benthyciad misol. Er mwyn ein helpu i asesu hyn, mae angen i chi ddangos bod yna ddigon o alw am eich cynnyrch (cynhyrchion) a/neu wasanaeth(au) ac y byddwch yn gallu cyflawni’r holl nodau a nodir yn eich Cynllun Busnes a’ch Rhagolwg Llif Arian yn rhesymol. Peidiwch â phoeni os nad ydych wedi creu’r dogfennau hyn o’r blaen! Edrychwch ar ein templedi a chanllawiau rhad ac am ddim a chofiwch y bydd eich Cynghorydd Busnes yn gallu darparu cefnogaeth trwy gydol y rhan hon o’r broses.

Oes yna unrhyw gefnogaeth ar gael yn ystod y broses o wneud cais?

Oes, mae ein Partneriaid Cyflenwi wrth law i’ch cefnogi chi trwy’r broses o wneud cais. Gallant roi cyngor i chi ar lenwi’r ffurflenni cais a pha wybodaeth fydd angen i chi ei chynnwys. Gallant hefyd eich helpu i greu eich cynllun busnes, rhagolwg llif arian a chyllideb goroesi bersonol, p’un a oes angen cymorth arnoch i greu’r rhain o’r dechrau neu ddim ond eisiau i rywun edrych drostynt a’u gwirio.

Gan y bydd eich Partner Cyflenwi hefyd yn asesu’ch cais am fenthyciad i benderfynu a ydych chi’n gymwys i gael Start Up Loan ai peidio, bydd eu cefnogaeth yn canolbwyntio ar eich rhoi yn y sefyllfa orau bosibl i lwyddo. Mae’n bwysig cofio mai chi sy’n gyfrifol am eich cais yn y pen draw ac er y bydd Partner Cyflenwi yn gwneud ei orau i’ch cefnogi, nid yw hyn yn gwarantu y byddwch yn gymwys i gael y benthyciad.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein hadran cwestiynau cyffredin am gymorth busnes a mentora.

Pwy fydd yn adolygu fy nghais ac yn penderfynu a allaf gael Start Up Loan?

Bydd eich Partner Cyflenwi yn adolygu eich cais ac yn gwneud penderfyniad am y benthyciad. Rydym yn darparu cyfres o feini prawf i bob Partner Cyflenwi i sicrhau bod dull cyson yn cael ei ddilyn ar draws ein rhwydwaith, ond yn y pen draw bydd Partneriaid Cyflenwi yn seilio eu penderfyniad ar hanes credyd, fforddiadwyedd personol a hyfywedd cynllun busnes yr unigolyn.

Pam allai fy nghais gael ei wrthod?

Mae yna nifer o resymau pam y gallai eich cais gael ei wrthod. Fel benthyciwr cyfrifol, mae yna ddau faen prawf allweddol rydym yn eu defnyddio wrth benderfynu a allwn fenthyg i ymgeisydd. Mae’r cyntaf yn ymwneud â fforddiadwyedd unigolyn (a fyddwch chi’n gallu ymrwymo i’r ad-daliadau gofynnol?), mae’r ail yn ymwneud â hyfywedd cynlluniau busnes a rhagolwg llif arian yr ymgeisydd (a fyddwch chi’n gallu cyflawni’r holl nodau rydych chi wedi’u nodi yn eich cynlluniau yn rhesymol ac a oes marchnad ddigonol i’ch syniad chi?).

A allaf ail-ymgeisio os yw fy nghais yn cael ei wrthod?

Yn anffodus, os yw eich cais yn cael ei wrthod, bydd rhaid i chi aros am o leiaf chwe mis cyn y gallwch ail-ymgeisio. Mae’r cyfnod hwn wedi’i gynllunio i roi amser i chi adolygu a gwella unrhyw feysydd o’ch cais a oedd yn eich atal rhag sicrhau Start Up Loan o’r blaen.

Os ydych yn penderfynu ail-ymgeisio, bydd angen i chi gysylltu â’r Partner Cyflenwi gwreiddiol a adolygodd eich cais cyntaf. Bydd y Partner Cyflenwi yn ail-asesu eich cais. Y rheswm rydym ni’n gofyn i chi weithio gyda’r un Partner Cyflenwi yw oherwydd bod ganddo wybodaeth fanwl eisoes o’ch busnes a’ch sefyllfa bersonol.

Fel rhan o’r ailasesiad hwn, bydd angen i chi allu dangos i’ch Partner Cyflenwi bod eich amgylchiadau wedi newid neu eich bod wedi mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd yn eich llythyr gwrthod cyntaf. Efallai bydd gofyn i chi hefyd gyflwyno dogfennau personol a busnes wedi’u diweddaru a mynd trwy unrhyw wiriadau sy’n ofynnol gan y cynllun.

A oes angen cyfrif banc busnes arnaf i gael y benthyciad hwn?

Nag oes, a hyd yn oed os oes gennych gyfrif banc busnes, ni fyddwn yn gallu talu eich Start Up Loan i mewn i’r cyfrif hwnnw. Gan fod Start Up Loan yn fenthyciad personol, bydd angen i chi roi manylion eich cyfrif banc personol i gael eich Start Up Loan os yw eich cais yn llwyddiannus.

Rwyf wedi gwneud cais am Start Up Loan, ond heb glywed unrhyw beth eto?

Os na chysylltwyd â chi o fewn dau ddiwrnod gwaith, cysylltwch â’n tîm Gwasanaeth Cwsmer, gan ddarparu eich manylion cyswllt fel y gallwn eich cefnogi i symud ymlaen.

A allaf atal y broes ar unrhyw adeg cyn i mi gael y benthyciad?

Gallwch, gallwch dynnu eich cais yn ôl ar unrhyw adeg cyn i chi gael y benthyciad. Ar ôl i chi gael y benthyciad, mae yna gyfnod ail-feddwl o 14 diwrnod o’r dyddiad yr arwyddwch eich Cytundeb Benthyciad. Os penderfynwch yn ystod y cyfnod ail-feddwl nad ydych eisiau eich benthyciad mwyach, gallwch ddychwelyd yr arian ac ni fyddwch yn atebol am unrhyw ran o’r llog yr ydych wedi’i gronni. Cyfeiriwch at eich Cytundeb Benthyciad i gadarnhau manylion eich cyfnod ailfeddwl. Sylwch: ar ôl i’r cyfnod ail-feddwl fynd heibio, bydd rhaid i chi ad-dalu swm llawn y benthyciad, gan gynnwys y llog i gyd.