Beware of scams

We are aware of scams coming from email and social media where people try to impersonate us. We will never ask you for money or your bank details. Learn more about what to look out for and how to protect yourself.

Cwestiynau Cyffredin

Welsh Language Version

Cymhwystra

A yw pob math o fusnes yn gymwys i gael Start Up Loan?

Mae Start Up Loans wedi’u cynllunio i’w defnyddio i ddechrau busnes newydd neu i dyfu busnes sydd wedi bod yn masnachu am lai na 24 mis. Er ein bod yn gallu cefnogi’r rhan fwyaf o wahanol fathau o fusnesau, mae yna ychydig na allwn eu cefnogi. Ewch i’n tudalen cymhwystra i gael rhestr lawn o’r busnesau sydd wedi’u heithrio

A allaf wneud cais am fenthyciad os oes gennyf gredyd gwael?

Nid yw credyd gwael o reidrwydd yn rhwystr i gael Start Up Loan, fodd bynnag rydym yn gwneud gwiriad credyd llawn ar bob ymgeisydd. Mae The Start Up Loans Company wedi ymrwymo i fenthyca cyfrifol ac mae rhaid i ni sicrhau bod ymgeiswyr yn gallu ad-dalu’r benthyciad.

Ni allwch gael Start Up Loan os:

  • Rydych yn gwneud cais am fethdaliad neu’n fethdalwr ar hyn o bryd neu ar Orchymyn Rhyddhau o Ddyled (DRO)
  • Mae gennych Gytundeb Gwirfoddol Unigol (IVA) neu Weithred Ymddiriedolaeth (Trust Deed) gyfredol
  • Rydych ar Raglenni Rheoli Dyled neu Gynlluniau Trefniant Dyled (DAS)

Am y manylion llawn, gweler ein tudalen ar wiriadau credyd.

Rwyf ar Orchymyn Rhyddhau o Ddyled (DRO), a allaf wneud cais?

Os ydych ar Orchymyn Rhyddhau o Ddyled (DRO), rydych yn destun cyfyngiadau o ran sefydlu a hyrwyddo busnes a gweithredu fel cyfarwyddwr. Gallai’r cyfyngiadau hyn ei gwneud yn anodd i chi lansio eich busnes a, felly, i ad-dalu’r benthyciad a gymerwyd ar gyfer y busnes hwnnw.

Mae The Start Up Loans Company a’i Bartneriaid Cyflenwi yn fenthycwyr cyfrifol sydd wedi ymrwymo i sicrhau nad ydym yn cymhlethu unrhyw faterion credyd sydd gan ymgeiswyr trwy gynyddu eu dyled ariannol. Ni allwn felly gefnogi unigolion nes eu bod wedi’u rhyddhau o’r DRO sydd ar waith.

Am y manylion llawn, darllenwch ein tudalen ar wiriadau credyd.

Mae gen i Gynllun Rheoli Dyled (DMP), a allaf wneud cais?

Yn anffodus, ni allwn ystyried eich cais nes eich bod wedi ad-dalu’r dyledion hyn yn llawn. Mae The Start Up Loans Company wedi ymrwymo i fenthyca cyfrifol ac ni fyddwn yn benthyg mewn amgylchiadau pan fyddai gwneud hynny’n arwain at fwy o ddyled i’r ymgeisydd.

Am y manylion llawn, gweler ein tudalen ar wiriadau credyd.

Pam nad ydych yn benthyg i bobl sydd â mathau penodol o broblemau credyd?

Mae The Start Up Loans Company a’i Bartneriaid Cyflenwi wedi ymrwymo i fod yn fenthycwyr cyfrifol ac mae’n bwysig i ni nad ydym yn cymhlethu unrhyw faterion credyd presennol a allai fod gan ymgeiswyr trwy gynyddu eu dyled ariannol.

Am y manylion llawn, gweler ein tudalen ar wiriadau credyd.

A allaf wneud cais am fenthyciad os ydw i’n cael budd-daliadau gwladol?

Nid yw cael budd-daliadau gwladol o reidrwydd yn eich eithrio rhag gwneud cais am Start Up Loan ond ni allwn ddarparu arweiniad unigol ar hawl i fudd-daliadau gwladol. Siaradwch gyda’ch Canolfan Byd Gwaith am wybodaeth.

Ydw i’n gymwys i wneud cais os ydw i’n prynu busnes sydd eisoes yn bodoli?

Ydych, rydych yn dal yn gymwys i wneud cais am Start Up Loan os ydych yn prynu busnes sydd eisoes yn bodoli, hyd yn oed os yw wedi bod yn masnachu am fwy na dwy flynedd o dan berchnogaeth wahanol, ar yr amod nad ydych yn bersonol wedi bod yn berchen ar y busnes am fwy na dwy flynedd. Yn yr achos hwn, bydd gofyn i chi fod wedi dod o hyd i gopi o’r cyfrifon ariannol ar gyfer y busnes a bydd angen i chi ddarparu’r rhain gyda’ch cais. Sylwch: os oedd y busnes yn flaenorol yn gweithredu ar golled, neu’n gwneud hynny ar hyn o bryd, bydd disgwyl i chi fynd i’r afael â’r mater hwn yn uniongyrchol yn eich cynllun busnes.

Sut ydw i'n gwybod am ba mor hir mae fy musnes wedi bod yn masnachu?

At ddibenion gwneud cais am Start Up Loan, diffinnir masnachu fel busnes sy’n cyflawni gweithgareddau fel prynu a gwerthu nwyddau, cynnal masnach neu broffesiwn, darparu gwasanaethau neu fod yn cynhyrchu refeniw yn gyson. Os nad ydych yn bodloni’r meini prawf hyn, nid ydych yn debygol o gael eich ystyried fel busnes sy’n masnachu. Sylwch: os ydych wedi gwneud cyfnodau o brofi marchnad ad hoc neu wedi ysgwyddo treuliau ar gyfer gweithgareddau nad ydynt yn cynhyrchu refeniw, ni fydd y cyfnodau hyn yn cael eu cynnwys yng nghyfanswm eich amser masnachu. Cofiwch: i fod yn gymwys i gael Start Up Loan, ni allwch fod wedi bod yn masnachu am fwy na 24 mis. Gweler ein tudalen meini prawf cymhwystra i gael rhagor o wybodaeth neu cysylltwch â ni os nad ydych yn siŵr.

Mae gen i fisa, a allaf wneud cais?

Mae’n dibynnu ar eich fisa. Mae yna ystod o fisâu sy’n cyfyngu ar allu unigolyn i weithio yn y DU, p’un a yw’n seiliedig ar nawdd, nifer yr oriau neu’r hawl i fod yn hunangyflogedig. Byddai’r mathau canlynol o fisau yn eich rhwystro rhag gwneud cais am Start Up Loan:

  • Fisa Haen 1 (pob categori)
  • Fisa Haen 2 (pob categori)
  • Fisa Myfyriwr Haen 4 (Cyffredinol)
  • Fisa Haen 5 (gweithiwr dros dro)
  • Gweithwyr Domestig ar fisa Aelwyd Breifat
  • Cynrychiolydd fisa Busnes Tramor

Er mwyn osgoi amheuaeth, mae unigolion ar Fisa Llinach (Ancestry) yn gymwys o dan y cynllun, fel y mae unigolion sydd â fisa â chyfyngiad sy’n nodi “dim hawl i arian cyhoeddus” ar yr amod nad yw’r cyfyngiadau hynny’n dod o dan y gwaharddiadau uchod.

Os ydych yn ansicr a yw’ch fisa yn gymwys o dan y cynllun, cyfeiriwch at wefan y Llywodraeth i gael mwy o wybodaeth am y math o fisa sydd gennych.

Sylwch: os yw eich math o fisa yn cyd-fynd â’n meini prawf cymhwysedd, bydd gofyn i chi sicrhau y bydd tymor y benthyciad y gofynnwch amdano yn eich cais yn eich galluogi i gwblhau’ch ad-daliadau benthyciad yn llawn o leiaf 6 mis cyn i’ch fisa ddod i ben. Er enghraifft, os ydych ar fisa pedair blynedd, yna uchafswm tymor y benthyciad y gallem ei gynnig i chi fyddai 3.5 mlynedd gan y byddai angen i chi fod wedi ad-dalu’r benthyciad yn llawn 6 mis cyn i’ch fisa ddod i ben.

Ydw i’n gymwys i wneud cais os ydw i’n fyfyriwr rhyngwladol sy’n byw yn y DU?

Mae’n dibynnu ar eich fisa. Os oes gennych fisa Haen 4, yn anffodus nid ydych yn gymwys i wneud cais am Start Up Loan gan fod gweithio’n hunangyflogedig wedi’i eithrio o dan y fisa hon. Yn yr un modd, os oes gennych fisa Haen 1 (Entrepreneur Graddedig), nid ydych yn gymwys i gael Start Up Loan gan nad yw hyd eich fisa yn cyd-fynd â’n hisafswm tymor benthyciad.

Mae fy musnes yn allforio nwyddau’n rhyngwladol. Ydw i dal yn gymwys i wneud cais?

Ydych, yn amodol ar dri ffactor craidd.

  1. Rhaid i’ch busnes fod yn gwmni sydd wedi’i gofrestru yn y DU a/neu’n gofrestredig yn y DU at ddibenion treth.
  2. Rhaid i ochr gweithredol eich busnes fod wedi’i leoli yn y DU.
  3. Rhaid i’r rhan fwyaf o’r refeniw a gynhyrchir gan eich busnes hefyd aros yn y DU.
A oes rhaid i fy musnes gael ei gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau neu CThEM cyn i mi wneud cais?

Na, nid oes rhaid i’ch cwmni fod wedi cofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau na CThEM cyn i chi wneud cais am Start Up Loan.

A fydd fy mhartner busnes yn gallu gwneud cais hefyd?

Bydd, gall partneriaid busnes lluosog o’r un busnes wneud cais unigol am Start Up Loan. Gallwn fenthyg hyd at uchafswm o £100,000 i unrhyw fusnes unigol, sy’n golygu y gall hyd at bedwar partner busnes fenthyg uchafswm o £25,000 yr un. Sylwch: rhaid i’r holl bartneriaid busnes wneud cais trwy’r un Partner Cyflenwi.

A allaf ychwanegu fy mhartner busnes at fy nghais?

Ni allwch ychwanegu eich partner busnes at eich cais gan fod angen i bob ymgeisydd wneud cais yn unigol, hyd yn oed os yw’r arian yn cael ei fuddsoddi yn yr un busnes. Mae hyn oherwydd bod Start Up Loans yn fenthyciadau personol at ddibenion busnes, ac felly rydym yn gwneud amrywiaeth o wiriadau sy’n gysylltiedig â’ch gallu unigol i fforddio ac ad-dalu eich benthyciad. Fodd bynnag, gallwch gyflwyno’r un cynllun busnes a rhagolwg llif arian fel rhan o’ch ceisiadau.

Mae gennyf bartner busnes. Ydy’r gwiriad busnes yn cael ei wneud o dan enwau ni’n dau?

Na, oherwydd bod Start Up Loans yn fenthyciadau personol a fuddsoddir mewn busnes, mae’r gwiriad credyd yr ydym yn ei wneud yn seiliedig ar bob ymgeisydd unigol.