Beware of scams

We are aware of scams coming from email and social media where people try to impersonate us. We will never ask you for money or your bank details. Learn more about what to look out for and how to protect yourself.

Cwestiynau Cyffredin

Welsh Language Version

Y Benthyciad

Ai grant yw Start Up Loan?

Na. Mae grant yn gyllid nad oes angen ei ad-dalu a ddarperir gan unigolyn neu sefydliad at ddiben penodol, ond rhaid ad-dalu Start Up Loan yn llawn dros dymor y cytunwyd arno o un i bum mlynedd.

Mae Start Up Loans yn cael eu hariannu gan y llywodraeth ac felly’n cael eu hystyried yn Gymorth Gwladwriaethol.

Beth yw Cymorth Gwladwriaethol?

Ystyrir cymorth a ddarperir trwy Start Up Loans, fel nifer o gynlluniau cymorth busnes a gefnogir gan y Llywodraeth, yn Gymorth Gwladwriaethol.

Mae Cymorth Gwladwriaethol yn derm gan y Comisiwn Ewropeaidd sy’n cyfeirio at fathau o gymorth gan gorff cyhoeddus neu gorff a ariennir yn gyhoeddus, a roddir ar sail ddewisol i fentrau sy’n ymwneud â gweithgaredd masnachol economaidd, gyda’r potensial i ystumio cystadleuaeth ym marchnad yr Undeb Ewropeaidd trwy ffafrio un darparwr dros un arall.

Mae darparu Cymorth Gwladwriaethol o’r fath yn cael ei lywodraethu gan reoliadau a wneir gan y Comisiwn Ewropeaidd. 

Mae cymorth de minimis yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio symiau bach o Gymorth Gwladwriaethol sydd ddim yn gofyn am gymeradwyaeth y Comisiwn Ewropeaidd. Cyfanswm y cymorth de minimis a ellir ei roi i un derbynnydd yw €200,000 dros gyfnod cyllidol o 3 blynedd.  Mae terfynau is yn berthnasol os yw eich busnes newydd yn ymwneud â chludo nwyddau ar y ffyrdd, amaethyddiaeth, pysgodfeydd neu ddyframaethu. Ni ellir rhoi cymorth de minimis i helpu i sefydlu rhwydwaith ddosbarthu nac ar gyfer gwariant arall sy’n gysylltiedig â gweithgaredd allforio (ac ni ellir ei ddefnyddio chwaith i ariannu rhai gweithgareddau yn y sector pysgodfeydd a dyframaethu fel y’u rhestrir yn Erthygl 1, Paragraff 1 o Reoliad 717/2014 y Comisiwn Ewropeaidd).

Cyfrifoldeb derbynnydd y benthyciad yw cadw cofnodion o unrhyw Gymorth Gwladwriaethol sy’n deillio o gymorth a dderbyniwyd am o leiaf deng mlynedd o’r dyddiad y’i derbyniwyd a sicrhau nad ydynt yn mynd y tu hwnt i’r terfyn tair blynedd treigl.

Os bydd derbynnydd benthyciad yn gwneud unrhyw gais arall i gynllun cymorth y bernir ei fod yn darparu Cymorth Gwladwriaethol yn ystod y tair blynedd nesaf, bydd gofyn iddynt hysbysu gweithredwr y cynllun hwnnw am y Cymorth Gwladwriaethol a dderbyniwyd trwy Start Up Loans ac unrhyw gymorth arall perthnasol o ffynonellau eraill.

Os yw eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn rhoi gwybod i chi trwy e-bost gwerth y cymorth de minimis sy’n deillio o’ch Start Up Loan.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Gymorth Gwladwriaethol yma neu gallwch fynd i wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

Pa fath o gyllid sy’n cael ei ddarparu o dan y cynllun Start Up Loans?

Mae cyllid yn cael ei ddarparu trwy fenthyciad personol sy’n cael ei reoleiddio dan Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974. Golyga hyn bod y benthyciad yn cael ei gymryd allan yn eich enw chi ac nid enw eich menter. Mae’r benthyciad yn ad-daladwy ar sail fisol hyd ddiwedd cyfnod y benthyciad. Nid grant yw’r cyllid a ddarperir i chi.

Pam bod Start Up Loan yn fenthyciad personol ac nid yn fenthyciad busnes?

Credwn ei bod yn bwysig i berchnogion busnes fuddsoddi’n bersonol yn llwyddiant eu busnes, a dyna pam mae Start Up Loans wedi’u strwythuro fel benthyciadau personol yn hytrach na benthyciadau busnes. Trwy wneud unigolion yn atebol am eu had-daliadau rydym yn ceisio grymuso ymgeiswyr i wneud y penderfyniadau cywir drostynt eu hunain a’u busnes, fel faint i’w fenthyg a sut y dylid defnyddio’r arian i gyflawni nodau’r busnes.

Er mwyn cefnogi ymgeiswyr i wneud y penderfyniadau hyn, rydym yn ei gwneud yn ofynnol i bob unigolyn gyflwyno Cynllun Busnes, Rhagolwg Llif Arian a Chyllideb Oroesi Bersonol fel rhan o’u cais. Mae gan y dogfennau hyn ddau bwrpas: Yn gyntaf, maent yn ein helpu i ddeall yn well anghenion personol a busnes unigolion i benderfynu ar y ffordd orau i’w cefnogi nhw. Yn ail, maent yn ein helpu i wneud penderfyniad benthyca gan ein galluogi i asesu gallu unigolyn i ad-dalu’r benthyciad a hyfywedd eu cynlluniau busnes.

Faint alla i ei fenthyg?

Gall pob unigolyn fenthyg rhwng £500 a £25,000 ar unrhyw un adeg. Sylwch: os yw partneriaid busnes lluosog yn gwneud cais am fenthyciad ar gyfer yr un busnes, gellir benthyca uchafswm o £100,000 i’r busnes hwnnw yn ystod ei oes a allai effeithio ar y swm y gallwch chi ei fenthyg yn bersonol.

Yn ogystal, os gwnewch gais llwyddiannus am Start Up Loan, yna ar ôl i chi wneud chwe ad-daliad llawn efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am gyllid ychwanegol ar gyfer yr un busnes ar ffurf Ail Fenthyciad. Dysgu mwy am Ail Fenthyciadau.

Beth yw swm y benthyciad y gofynnir amdano ar gyfartaledd?

Mae maint benthyciadau ar gyfartaledd rhwng £5,000 a £10,000, ond wrth gwrs mae’r swm terfynol yn dibynnu yn y pen draw ar anghenion unigolyn, y math o fodel busnes a sut rydych chi’n bwriadu defnyddio’r arian.

Pam ydych chi’n codi llog ar y benthyciad?

Rydym yn gynllun a gefnogir gan y llywodraeth felly mae’r holl log yn cael ei  ailfuddsoddi yn y cynllun, sy’n golygu y gall hyd yn oed mwy o unigolion a busnesau elwa o’r cyllid a’r gefnogaeth fforddiadwy hon. Ar gyfradd sefydlog o 6% y flwyddyn, mae’r llog wedi’i gynllunio i fod yn fforddiadwy o’i gymharu â benthycwyr prif ffrwd eraill ac mae’r tymor benthyciad hyblyg o un i bum mlynedd yn rhoi’r gallu i’n cwsmeriaid reoli eu had-daliadau misol mewn ffordd sy’n gwneud y mwyaf o synnwyr iddyn nhw. Rhowch gynnig ar ein Cyfrifiannell Benthyca i gyfrifo eich taliadau misol posib a chyfanswm yr ad-daliadau.

Oes yna unrhyw ffioedd ynghlwm â gwneud cais am Start Up Loan?

Na, nid oes unrhyw ffioedd ynghlwm â gwneud cais am Start Up Loan neu ei dderbyn, na ffioedd am y gefnogaeth a ddarparwn yn ystod ac ar ôl y broses o wneud cais. Ar wahan i’r ad-daliadau misol, ni ofynnir i chi am unrhyw ffioedd neu daliadau eraill.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng benthyciad wedi'i warantu a benthyciad heb ei warantu?

Benthyciad wedi’i warantu yw benthyciad sydd angen gwarantwr neu ased, er enghraifft eiddo (a elwir hefyd yn sicrwydd) i ddiogelu’r benthyciad. Os na ellir ad-dalu benthyciad wedi’i warantu, gall y cwmni a roddodd y benthyciad gymryd meddiant o’r eiddo neu alw ar y gwarantwr i fodloni’r balans sy’n ddyledus.

Mewn cyferbyniad gellir cael, benthyciadau heb eu gwarantu – fel Start Up Loans – heb ddefnyddio gwarantwr neu sicrwydd ar gyfer y benthyciad. Fodd bynnag, cofiwch fod yna rhwymedigaeth gytundebol arnoch i ad-dalu eich Start Up Loan, ni waeth beth fo’r amgylchiadau. Gallai methu â thalu eich ad-daliadau misol arwain at gymryd camau ffurfiol, a fydd yn effeithio’n niweidiol ar eich ffeil gredyd, felly mae’n bwysig siarad â’ch Partner Cyllid cyn gynted â phosibl os credwch y gallech wynebu unrhyw anawsterau.

Bydd manylion eich Partner Cyllid ar eich cytundeb benthyciad ar ôl i’ch cais gael ei gymeradwyo.

A allaf ddewis tymor fy menthyciad?

Gallwch, gallwch ddewis tymor benthyciad rhwng un a pum mlynedd yn dibynnu ar eich fforddiadwyedd a’r hyn sydd orau gennych. Sylwch: os ydych yn y DU ar fisa, bydd angen i chi ad-dalu eich benthyciad a’r holl log cysylltiedig o leiaf chwe mis cyn i’ch fisa ddod i ben. Ni waeth beth yw tymor terfynol cytunedig eich benthyciad, bydd angen i chi wneud ad-daliadau misol. Defnyddiwch ein Cyfrifiannell Benthyca i gyfrifo beth fyddai eich ad-daliadau misol a’r cyfanswm ad-dalu posibl yn seiliedig ar wahanol dymhorau benthyg.

Oes yna unrhyw reolau yn ymwneud â sut rwy’n gwario’r arian?

Mae Start Up Loans yn fenthyciadau personol a ddefnyddir i ddechrau busnes newydd neu i dyfu busnes sydd eisoes yn bodoli sydd wedi bod yn masnachu am lai na 24 mis. Gallwch wario’ch benthyciad ar ystod eang o bethau sy’n gysylltiedig â’ch busnes, fel offer a stoc, adeiladau, costau marchnata a hyrwyddo i enwi ond ychydig. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi bod yn rhaid i chi allu disgrifio’ch bwriadau ar gyfer eich benthyciad o fewn eich cynllun busnes a’ch rhagolwg llif arian ac egluro sut y bydd hyn yn eich helpu i ddechrau a/neu dyfu eich busnes.

Mae yna ychydig o weithgareddau na ellir eu hariannu gyda Start Up Loan, gan gynnwys ad-dalu dyledion, cymwysterau hyfforddi a rhaglenni addysg neu gyfleoedd buddsoddi nad ydyn nhw’n rhan o fusnes cynaliadwy parhaus. Gweler ein meini prawf cymhwystra llawn i gael rhagor o wybodaeth ar fathau o fusnesau sydd wedi’i heithrio a defnyddiau wedi’u heithrio dan y cynllun.

Faint o Start Up Loans allaf wneud cais amdanynt o dan y cynllun?

Dim ond ar gyfer un busnes y gall pob unigolyn wneud cais am Start Up Loan, felly os ydych chi’n berchen ar fentrau busnes lluosog dim ond ar gyfer un ohonynt y byddwch chi’n gallu cael cyllid. Fodd bynnag, ar ôl sicrhau Start Up Loan os bydd angen cyllid ychwanegol arnoch yn ddiweddarach er mwyn tyfu a datblygu’r un busnes, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am Ail Fenthyciad. Byddai rhaid i chi wneud cais newydd ac wedi gwneud o leiaf chwe mis o ad-daliadau llawn cyn gwneud cais. Yn ogystal, ni all y cyfanswm sy’n weddill ar eich benthyciad fod yn fwy na £25,000 ar unrhyw un adeg. Ewch i’n tudalen am Ail Fenthyciadau i gael mwy o wybodaeth ar y meini prawf cymhwystra llawn a sut i wneud cais.

A fydd gwneud cais am Start Up Loan yn cael effaith ar fy hawl i fudd-daliadau gwladol?

Yn anffodus, nid ydym yn gallu rhoi cyngor ar hawl i fudd-daliadau gwladol. Siaradwch gyda’ch Canolfan Byd Gwaith am wybodaeth.

A fydd The Start Up Loans Company yn rhoi’r benthyciad i mi’n uniongyrchol?

The Start Up Loans Company sy’n gweinyddu’r cynllun, ond nid yw’n rhoi benthyciadau i ymgeiswyr yn uniongyrchol. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd eich Cytundeb Benthyg a’r benthyciad yn cael eu darparu i chi gan naill ai eich Partner Cyflenwi neu un o’n Partneriaid Cyllid. Y partner sy’n dosbarthu’ch benthyciad fydd eich prif bwynt cyswllt ar gyfer trafod telerau eich benthyciad ac unrhyw faterion eraill sy’n gysylltiedig â’ch ad-daliadau misol.

A oes gan The Start Up Loans Company gynnig sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia?

Oes, mae gennym gynnyrch ariannol sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia, a weinyddir yn annibynnol trwy ein Partner Cyflenwi, Financing Sharia Enterprise. Ewch i’n tudalen cyllid sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia am ragor o wybodaeth.