Beware of scams

We are aware of scams coming from email and social media where people try to impersonate us. We will never ask you for money or your bank details. Learn more about what to look out for and how to protect yourself.

Canllaw byr i Start Up Loans

Welsh Language Version

Beth yw Start Up Loan?

Benthyciad personol ar gyfer pobl sydd eisiau dechrau neu dyfu busnes yn y DU yw Start Up Loan. Mae’r benthyciadau’n cael eu hariannu gan Lywodraeth y DU trwy ei chynllun Start Up Loans.

Mae’r benthyciadau’n anwarantedig. Mae hyn yn golygu y gallwch fenthyca heb orfod darparu asedau neu warantwyr fel gwarant y byddwch yn talu’r arian yn ôl. Gallai ased fod yn eiddo, a gallai gwarantwr fod yn rhywun sy’n cytuno i wneud yr ad-daliadau os na allwch eu gwneud eich hun.

Os ydych eisoes yn rhedeg busnes a bod ganddo nifer o berchnogion neu bartneriaid, gall pob un ohonoch wneud cais am hyd at £25,000. Gyda’ch gilydd, gallwch fenthyg hyd at £100,000.

Os ydym yn cymeradwyo eich cais am Start Up Loan, byddwch nid yn unig yn cael yr arian, byddwn hefyd yn cynnig 12 mis o fentora busnes am ddim i chi (rydym yn galw hyn yn ‘cymorth ar ôl benthyciad’). Byddwn yn egluro hyn nes ymlaen yn y canllaw.

Men with aprons working in a workshop with a laptop

Manylion allweddol

  • Benthyg rhwng £500 a £25,000
  • Cyfradd llog sefydlog o 6% y flwyddyn
  • Talu’r benthyciad yn ôl dros gyfnod o 1-5 mlynedd
  • Dim ffioedd am wneud cais am fenthyciad na threfnu’r benthyciad
  • Cymorth am ddim i wneud cais
  • Cymorth a mentora am ddim ar ôl i chi gael yr arian
  • Templedi am ddim (gan gynnwys cynllun busnes a rhagolwg llif arian) a chanllawiau gwybodaeth

Sut ydw i’n gwneud cais am Start Up Loan?

Mae yna dri cham i wneud cais am Start Up Loan:

Cam 1 – Byddwn yn gwirio a ydych yn gymwys ac yn gofyn i chi gofrestru gyda ni

Yn gyntaf, byddwn yn gofyn i chi gwblhau gwiriad cymhwystra cychwynnol trwy ein gwefan. Mae hyn er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cwrdd â’r holl amodau ar gyfer Start Up Loan.

Os ydych yn gymwys, byddwn yn gofyn i chi gofrestru. Byddwch yn rhoi gwybodaeth sylfaenol amdanoch chi’ch hun, megis eich enw a’ch manylion cyswllt.

Ar ôl i chi gofrestru, byddwn yn anfon e-bost atoch yn gofyn i chi greu cyfrif a chyfrinair fel y gallwch ddefnyddio ein system ar-lein (rydym yn galw’r system hon yn ‘porth cwsmeriaid’). Byddwch yn defnyddio’r system hon i ddechrau eich cais am Start Up Loan.

Read more Darllen mwy am gymhwystra am Start Up Loan

Cam 2 – Llenwi ffurflen gais yn ein porth ar-lein

Bydd y ffurflen gais yn gofyn ychydig o gwestiynau am eich sefyllfa. Bydd angen i chi nodi faint o arian rydych chi am ei fenthyg a sut y byddwch yn defnyddio’r benthyciad.

Nesaf, byddwn yn gwneud gwiriad credyd. Mae hyn yn golygu edrych ar eich adroddiad credyd i weld a ydych wedi defnyddio credyd yn gyfrifol yn y gorffennol. Rydym yn gwneud hyn fel rhan o’n hymrwymiad i fenthyca cyfrifol.

Os byddwch yn pasio’r gwiriad credyd, bydd gennych 90 diwrnod i gwblhau eich cais. Fel rhan o hyn, rhaid i chi ddarparu’r tair dogfen ganlynol:

Y 3 dogfen rydym eu hangen gennych:

Nodyn pwysig: Rhaid i chi ddarparu’r tair dogfen yma yn Saesneg.

Eich cynllun busnes

Mae’r cynllun busnes yn amlinellu amcanion eich busnes a sut y byddwch yn cyflawni’r amcanion hyn dros amser.

Mae’n esbonio sut ydych yn bwriadu gwneud arian fel y gallwch gadw eich busnes yn rhedeg i’r dyfodol. Yn aml mae’n cynnwys gwybodaeth am eich targedau, cynlluniau marchnata a gwerthu, a rhagolygon ariannol.

Read more Darllen mwy am gynlluniau busnes (yn Saesneg)

Eich rhagolwg llif arian

Mae’r rhagolwg llif arian yn rhoi amcangyfrif o’r arian yr ydych yn disgwyl i’ch busnes ei wneud a’i dalu allan dros amser.

Dylai egluro’r holl ffyrdd y bydd gennych arian yn dod i mewn i’r busnes (er enghraifft, trwy werthu eich cynhyrchion neu wasanaethau) a chymharu’r rhain â’r costau y bydd yn rhaid i chi eu talu (megis taliadau i gyflenwyr, rhent am eiddo, a threth).

Ar gyfer Start Up Loan, bydd angen i’ch rhagolwg llif arian cwmpasu cyfnod o 12 mis. Bydd hyn yn ein helpu i weld a yw eich cynlluniau yn ddigon cryf i wneud yn siŵr y gall eich busnes barhau i weithredu dros amser.

Read more Darllen mwy am ragolygon llif arian (yn Saesneg)

Eich cyllideb oroesi bersonol

Mae’r gyllideb hon yn dangos eich incwm misol (er enghraifft, o’ch cyflog neu daliadau budd-daliadau), heb yr holl gostau a threuliau y byddech chi’n eu talu yn ystod yr un mis (fel rhent, biliau cyfleustodau, a bwyd). Eich cyllideb bersonol chi, nid cyllideb eich busnes.

Byddwn yn defnyddio’r gyllideb hon i benderfynu a allwch fforddio’r ad-daliadau misol. Os nad ydym yn meddwl y gallwch chi, ni fyddwn y gallu cynnig Start Up Loan i chi.

Read more Darllen mwy am gyllidebau goroesi personol (yn Saesneg)

Cam 3 – Byddwch chi a’ch cynghorydd busnes yn casglu eich dogfennau busnes ynghyd

Pan fyddwch yn gwneud cais am Start Up Loan, byddwn yn eich paru gydag un o’n cynghorwyr busnes. Bydd y cynghorydd yn edrych ar eich cynllun busnes, rhagolwg llif arian a’ch cyllideb oroesi bersonol i wneud yn siŵr eu bod yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom.

Yna byddwn yn asesu’r dogfennau hyn ochr yn ochr â’ch cais. Byddwn yn defnyddio eich cynllun busnes a’ch rhagolwg llif arian i ystyried a yw eich busnes yn hyfyw (yn gallu bod yn llwyddiannus). Byddwn yn defnyddio eich cyllideb oroesi bersonol i benderfynu a allwch fforddio’r benthyciad.

Os byddwn yn cymeradwyo eich cais, byddwn yn anfon eich cytundeb benthyciad personol atoch arlein. Byddwn hefyd yn eich gwahodd i fanteisio ar 12 mis o fentora busnes am ddim (yr hyn a alwn yn ‘cymorth ar ôl benthyciad’) – gweler yr adran ar ‘Mentora Busnes’ isod.

Pwy sy’n darparu’r arian?

Byddwch yn trefnu’r cyllid trwyddon ni, The Start-Up Loans Company. Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid cyflenwi a’n partneriaid cyllid i wneud y broses mor effeithlon ag sy’n bosibl.

You arrange the finance through us, the Start-Up Loans Company. We work with our delivery partners and finance partners to make the process as efficient as possible.

Ein partneriaid cyflenwi

Mae gennym rwydwaith o bartneriaid cyflenwi ledled y DU. Pan fyddwch yn gwneud cais am fenthyciad gyda ni, byddwn yn eich paru gydag un o’r partneriaid hyn – fel arfer un sydd wedi’i leoli yn eich ardal chi. Bydd eich partner cyflenwi yn neilltuo un o’u cynghorwyr busnes i weithio gyda chi. Bydd gan y cynghorydd lawer o brofiad ac ef/hi fydd eich pwynt cyswllt allweddol drwy’r broses. Bydd ef/hi:

• yn eich helpu i baratoi eich cynllun busnes a’ch rhagolwg llif arian
• yn rhoi cymorth mentora parhaus i chi os yw eich cais yn llwyddiannus
Mae’r partner cyflenwi hefyd yn gyfrifol am asesu eich cais terfynol am fenthyciad.

Darllen mwy am ein partneriaid cyflenwi (yn Saesneg)

Ein partner cyllid

Os byddwn yn cymeradwyo eich cais am Start Up Loan, byddwch yn cael yr arian trwy ein partner cyllid, GC Business Finance (GCBF). Mae GCBF yn cael ei reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Yn ogystal â rhoi’r arian i chi bydd GCBF hefyd yn:

  • rheoli eich cytundeb benthyciad
  • casglu’r ad-daliadau
  • gweithredu fel y prif gyswllt ar gyfer unrhyw faterion sy’n ymwneud â’ch benthyciad a’r ad-daliadau

Beth sy’n digwydd ar ôl i mi gael y benthyciad?

Mentora busnes (cymorth ar ôl benthyciad)

Ar ôl cymeradwyo eich cais am Start Up Loan, byddwn hefyd yn cynnig 12 mis o fentora busnes am ddim i chi. Mae ein mentoriaid yn weithwyr busnes proffesiynol profiadol a fydd yn eich tywys trwy gamau cynnar ddechrau neu dyfu busnes. Gallwch siarad â nhw am unrhyw beth sy’n ymwneud â’ch busnes, a gallant ddarparu cyngor, arweiniad, sicrwydd a mynediad at adnoddau a chysylltiadau defnyddiol.

Read more Darllen mwy am ein cymorth mentora busnes (yn Saesneg)

Adnoddau defnyddiol eraill

Cwestiynau Cyffredin

Dod o hyd i atebion i gwestiynau cyffredin am Start Up Loans, y broses o wneud cais, pwy sy’n gymwys, a mwy.

Read our FAQs

Cyfrifiannell ad-dalu (yn Saesneg)

Defnyddiwch y gyfrifiannell hon i gyfrifo faint fydd eich ad-daliadau misol a’r cyfanswm y byddwch yn ei addalu.

Loan repayment calculator

Defnyddiwch y gyfrifiannell hon i gyfrifo faint fydd eich ad-daliadau misol a’r cyfanswm y byddwch yn ei addalu.

Manylion am beth sy’n gwneud cynllun busnes cryf a’r wybodaeth sydd angen ei chynnwys yn eich cynllun wrth wneud cais am Start Up Loan.

Learn more about writing a business plan

The Start-Up Loans Company – pwy ydym ni?

Sefydlodd Llywodraeth y DU ein cwmni yn 2012 i gyflwyno ei chynllun Start Up Loans. Nod y cynllun yw gwneud bod yn berchen ar fusnes yn bosibl i bobl sy’n ei chael hi’n anodd cael cyllid trwy ddarparwyr traddodiadol, fel banciau’r stryd fawr. Mae The Start-Up Loans Company yn rhan o Fanc Busnes Prydain (British Business Bank), sefydliad sy’n eiddo i lywodraeth y DU ond sy’n cael ei reoli’n annibynnol, ei nod yw gwneud i farchnadoedd ariannol weithio’n well i fusnesau bach yn y DU.

Illustration of a waiter holding coffee and a man in formal suit taking notes, standing next to each other